Available translations: English

08.09.2025

Ar ddiwrnod cyntaf Fforwm Morfeydd Heli y DU yn Abertawe, mae Dirprwy Brif Weinidog Cymru ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig Huw Irranca-Davies AS wedi cyhoeddi cyllid i ddatblygu Rhwydwaith Morfeydd Heli Cymru.  

Bydd y rhwydwaith hwn yn darparu sylfaen ar gyfer dull cydlynol a strategol o adfer a diogelu cynefinoedd morfeydd heli yng Nghymru. Mae morfeydd heli yn ecosystemau arfordirol  hollbwysig sy’n diogelu’r glannau, yn cefnogi bioamrywiaeth, yn gwella ansawdd dŵr, ac yn storio carbon i helpu i frwydro yn erbyn newid hinsawdd.  

Digwyddiad blynyddol yw Fforwm Morfeydd Heli y DU, wedi’i gydlynu a’i gadeirio gan ecolegydd arfordirol Canolfan Ecoleg a Hydroleg y DU (UKCEH), Angus Garbutt. Bydd y fforwm eleni, sy'n dod â dros 130 o arbenigwyr morfeydd heli at ei gilydd o bob cwr o’r DU, yn cael ei gynnal ym Mhrifysgol Abertawe a’i noddi gan Ystad y Goron, Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Gronfa Fyd-eang ar gyfer Natur (WWF-UK). 

Yn ei anerchiad agoriadol wrth groesawu cynadleddwyr i'r digwyddiad, dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog: “Mae’n bleser gennyf gyhoeddi ein bod wedi darparu cyllid yn ddiweddar ar gyfer datblygu Rhwydwaith Morfeydd Heli Cymru.  
 
“O dan arweiniad Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, bydd y gwaith hwn yn creu sylfaen ar gyfer dull cydlynol a strategol o adfer a diogelu morfeydd heli ledled Cymru. Bydd y prosiect yn casglu gwybodaeth sy’n aml wedi'i hynysu, neu a all fod yn anffurfiol, a’i chynnwys mewn cynllun gweithredu cenedlaethol.” 

“Wrth i'n dealltwriaeth o gynefinoedd morfeydd heli dyfu, mae eu rôl wrth effeithio'n bositif ar fioamrywiaeth, gwydnwch a newid hinsawdd yn dod yn gliriach, a phwysigrwydd eu rheoli a'u diogelu'n effeithiol hefyd”. 

Dywedodd ecolegydd arfordirol UKCEH Angus Garbutt, sy’n cadeirio Fforwm Morfeydd Heli y DU “Mae'r fforwm yn gyfle gwych i ddod â’r bobl allweddol o bob rhan o'r llywodraethau datganoledig, academyddion, busnesau peirianneg sifil a chyrff anllywodraethol at ei gilydd, gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, NatureScot, Natural England, Asiantaeth yr Amgylchedd, Prifysgolion, ABPmer, WWF-UK ac Ymddiriedolaeth Adar y Gwlyptir. 

Mae rhannu gwybodaeth ac arbenigedd yn sicrhau bod y llif o dystiolaeth o wyddonwyr i wneuthurwyr polisi yn helpu i siapio cynlluniau ar gyfer y dyfodol ar gyfer y cynefinoedd carbon glas hollbwysig hyn.” 

Dywedodd Caroline Price, Pennaeth Natur a’r Amgylchedd ar gyfer Ystad y Goron, prif noddwyr y digwyddiad “Mae Ystad y Goron yn falch iawn o gefnogi Fforwm Morfeydd Heli y DU eleni. Mae ecosystemau arfordirol yn chwarae rôl hanfodol wrth ategu ein heconomi, ein hiechyd a'n llesiant, a chafodd morfeydd heli eu cydnabod yn ein gwaith diweddar ar  Farchnadoedd Cyfalaf Morol Naturiol y DU am eu cyfraniad pwysig.” 

Yn ystod y gynhadledd ddeuddydd, bydd sesiynau’n ymdrin ag amrywiaeth o themâu allweddol gan gynnwys gwella amrywiaeth, ymgysylltu â rhanddeiliaid, atebion sy’n seiliedig ar natur ac adfer tirwedd y môr. 

Yn y cyfarfod, bydd diweddariad ar 2030 Saltmarsh Breakthrough y Cenhedloedd Unedig, rhaglen fyd-eang sy'n dod â gwledydd a mentrau at ei gilydd i ysbrydoli ac ysgogi cydweithio byd-eang. Drwy gynnig fframwaith clir ar gyfer newid, mae'n grymuso cenhedloedd i flaenoriaethu, cydlynu ac ymhelaethu ar weithredu ar y cyd ar draws saith sector allweddol, gan ddatgloi cyfleoedd newydd i gyflymu cynnydd tuag at ddyfodol cynaliadwy, carbon isel. 

Mae’r digwyddiad hwn hefyd yn adeiladu ar gyhoeddiad y gweinidog gyda gweithdy ar Rwydwaith Morfeydd Heli Cymru i helpu i gynllunio’r broses o adfer morfeydd heli yn gyflym ar draws Cymru, gan adeiladu ar lwyddiant Adfer Morfeydd Heli Cymru a Phrosiect Morwellt. 

Mae’r ail ddiwrnod yn cynnwys trip maes, wedi'i drefnu gan Cyfoeth Naturiol Cymru, i forfa heli Cwm Ivy, lle bydd y gwaith adfer ar waith yn gefnlen i drafodaeth bellach 

Cysylltiadau  

Gill Ormrod – Uwch Reolwr Cyfathrebu Allanol   
Canolfan Ecoleg a Hydroleg y DU 
Ffôn: 07354 249062   
E-bost: press@ceh.ac.uk   

Nodiadau i Olygyddion 

Mae cynefinoedd morfeydd heli yn ffurfio tua 36,000 hectar o arfordir Lloegr, 7000 hectar o arfordir Cymru, a 6000 hectar o arfordir yr Alban, gyda'i gilydd ardal tua maint Gorllewin Swydd Efrog. Mae morfeydd heli yn darparu cynefin i greaduriaid tir a morol, porfa maethlon i dda byw, a mannau poblogaidd ar gyfer pysgota a gwylio adar. Mae morfeydd heli wedi ymddangos mewn ffuglen boblogaidd a straeon gwerin fel tirweddau anghysbell sy’n llawn pobl beryglus a chreaduriaid rhyfedd. Mae'r llanw cyflym, a oedd ers canrifoedd yn gwneud i rywun ofni mynd yn sownd, yn codi gyda lefelau'r môr, ac yn golchi'r ymyl rhynglanwol hwn o'r DU i ffwrdd, y mae 85% ohono wedi'i golli ers canol y 1800au. 

Mae diddordebau gwleidyddol a gwyddonol yn canolbwyntio ar faterion adfer tir ar gyfer amaethyddiaeth a datblygu, codiad yn lefel y môr, effeithiau anuniongyrchol pysgota diwydiannol ar gynefinoedd cysylltiedig fel riffiau morwellt ac wystrys sy'n darparu amddiffyniad rhag erydiad tonnau, manteision iechyd a llesiant, a nawr atafaelu carbon, adfer maetholion a chyd-adfer tirweddau morol arfordirol. 

Gwybodaeth bellach 

Adroddiad ar Gyflwr Morfeydd Heli y Byd 

Ymchwil carbon glas a morfeydd heli UKCEH  
 
Podlediad yr UKCEH, Counting the Earth – Secrets of the Saltmarsh:450 
 
Rewilding with Ben Goldsmith: Between land and sea - the importance of saltmarshes with Angus Garbutt 

Sefydliad ymchwil annibynnol blaenllaw yw Canolfan Ecoleg a Hydroleg y DU (UKCEH)  sy'n ymroddedig i ddeall a thrawsnewid sut rydyn ni’n rhyngweithio â'r byd naturiol. Gyda dros 600 o ymchwilwyr, rydyn ni’n mynd i'r afael â heriau amgylcheddol brys ein hoes, fel newid hinsawdd a cholli bioamrywiaeth. Mae ein gwybodaeth, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, yn grymuso llywodraethau, busnesau a chymunedau i wneud penderfyniadau gwybodus, gan siapio dyfodol lle mae natur a phobl yn ffynnu. 
 
www.ceh.ac.uk / X: @UK_CEH / LinkedIn: Canolfan Ecoleg a Hydroleg y DU