Rydym yn disgwyl o bryd i’w gilydd y bydd gan unigolion a sefydliadau sylwadau, syniadau neu gwynion yn ymwneud â gweithdrefnau, polisïau a gwasanaethau UKCEH yr NERC.
Gweithdrefn Gwyno
- Os oes gennych sylw neu gŵyn am ein gwasanaethau na all unigolyn eu datrys ar eich cyfer, rhowch wybod i ni yn ysgrifenedig trwy ysgrifennu i Ymholiadau UKCEH naill ai’n electronig neu drwy’r post ym Mhencadlys Wallingford UKCEH.
- Disgrifiwch y gŵyn yn glir ac, os yw’n briodol, dywedwch wrthym beth y credwch y gallem ei wneud i ddatrys pethau.
Byddwn yn ymdrin â phob cwyn fel a ganlyn:
- Anfon cydnabyddiaeth gychwynnol o fewn dau ddiwrnod gwaith i’ch hysbysu o’r amser y rhagwelir ar gyfer rhoi ymateb manwl.
- Bydd UKCEH yn cofnodi ac yn rheoli unrhyw sylwadau a chwynion a dderbynnir trwy ein System Rheoli Ansawdd.
Bydd UKCEH yn ceisio datrys y broblem fel bod yr achwynydd yn fodlon, fodd bynnag, os ydych yn dal yn anfodlon, ysgrifennwch at Gyfarwyddwr UKCEH, yr Athro Mark J Bailey, drwy’r post ym Mhencadlys Wallingford neu cysylltwch ag ef trwy Ymholiadau UKCEH.