Available translations: English

Telerau ac Amodau

Mae’r Ganolfan Ecoleg & Hydroleg (UKCEH) yn Ganolfan Ymchwil sydd yn berchen yn gyfan gwbl i Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC - y cyfeirir ato fel "Ni" isod). Wrth fynd i mewn i’n Safle rydych chi fel defnyddiwr ("Chi") yn derbyn ein telerau ac amodau a amlinellir isod.

Mae nodau masnachu a logos (“Nodau Masnachu”) NERC a UKCEH a ddefnyddir ac a ddangosir ar y Safle hwn yn nodau masnachu cofrestredig i NERC yn y DU a gwledydd eraill, ac ni ellir eu defnyddio heb ganiatâd perchennog y Nod Masnachu ymlaen llaw.

Defnyddio gwefan UKCEH

Mae gwefan UKCEH yn cael ei chynnal at eich defnydd personol chi ac i chi ei gweld. Mae mynd i mewn i’r wefan sydd yn cynnwys y telerau ac amodau hyn a’i defnyddio yn golygu eich bod yn derbyn y telerau ac amodau hyn. Maent yn dod i rym o’r dyddiad yr ydych yn defnyddio’r wefan hon am y tro cyntaf.

Rydych yn cytuno i ddefnyddio’r safle hwn at ddibenion cyfreithlon yn unig, ac mewn ffordd nad yw’n amharu ar hawliau, nac yn cyfyngu neu’n effeithio ar ddefnydd a mwynhad o’r safle hwn gan unrhyw drydydd parti. Mae cyfyngiad neu amhariad o’r fath yn cynnwys, heb gyfyngiad, ymddygiad sydd yn anghyfreithlon, neu a allai aflonyddu ar unrhyw berson neu achosi trallod neu anghyfleustra iddynt, a throsglwyddo cynnwys anllad neu dramgwyddus neu amharu ar lif naturiol deialog ar y safle hwn.

Defnyddir gwybodaeth a gesglir gennym ni ar gyfer adolygu mewnol er mwyn:

  • gwella cynnwys gwefan UKCEH;
  • addasu cynnwys a/neu drefn Gwe UKCEH.

Ni chaiff gwybodaeth a gesglir ei rhannu gyda sefydliadau eraill. Gweler ein Polisi cwcis am fwy o fanylion. I ddefnyddio data nad yw’n gysylltiedig â swyddogaethau y wefan, darllenwch ein Hysbysiad Preifatrwydd.

Cysylltu â gwefan UKCEH

Mae UKCEH yn croesawu ac yn annog gwefannau eraill i gysylltu â’r wybodaeth sydd ar y tudalennau hyn. Nid oes yn rhaid i chi ofyn caniatâd i gysylltu ond gellir gwneud cais am eiriad a graffeg cysylltu os oes angen.

Dolenni o’r safle hwn

  • Nid yw dolenni o’r safle hwn wedi eu hardystio gan UKCEH na NERC.
  • Mae dolenni a fframiau sy’n cysylltu’r safle hwn â safleoedd eraill er cyfleustra ac nid ydynt yn golygu bod UKCEH na NERC yn ardystio nac yn cymeradwyo’r safleoedd eraill hynny, eu cynnwys na’r bobl sy’n eu rhedeg.
  • Cyfrifoldeb defnyddiwr y Rhyngrwyd yw gwneud eu penderfyniadau eu hunain am gywirdeb, cyfredoldeb, dibynadwyedd a chywirdeb y wybodaeth a geir yn y safleoedd sy’n cysylltu o’r wefan hon.

Diogelwch feirws

Rydym yn gwneud pob ymdrech i wirio a phrofi deunyddiau yn ystod pob cam o’r cynhyrchu. Mae bob amser yn ddoeth i chi roi rhaglen gwrth-feirws trwy’r holl ddeunydd yr ydych yn ei lawrlwytho o’r rhyngrwyd.

Ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw golled, amhariad na niwed i’ch data neu eich system gyfrifiadurol a allai ddigwydd tra’n defnyddio deunydd sy’n dod o’r wefan hon.

Mae gwybodaeth ar y safle hwn

  • yn wybodaeth gyffredinol a ddarperir fel rhan o rôl statudol UKCEH a NERC yn rhoi cyhoeddusrwydd i weithgareddau UKCEH a lledaenu gwybodaeth yn ymwneud â’i drefniadaeth;
  • yn destun ansicrwydd arferol ymchwil;
  • gall newid heb rybudd;
  • ni ddylid dibynnu ar y wybodaeth fel sail ar gyfer gwneud neu fethu gwneud rhywbeth.

Ymwadiad

Mae’r holl wybodaeth a ddarperir gan UKCEH ar ei wefan yn cael ei darparu i roi mynediad ar unwaith er cyfleustra pobl â diddordeb. Er bod UKCEH o’r farn bod y wybodaeth yn ddibynadwy, mae gwallau dynol neu fecanyddol yn dal yn bosibilrwydd. Felly, nid yw UKCEH yn gwarantu cywirdeb, cyflawnder, prydlondeb na threfn gywir y wybodaeth. Ni fydd UKCEH, NERC nac unrhyw un o’r ffynonellau gwybodaeth yn gyfrifol am unrhyw wallau neu hepgoriadau, neu am ddefnyddio neu ganlyniadau a gafwyd yn sgil defnyddio’r wybodaeth hon.

Hawlfraint

Trwy ymweld â gwefan y Ganolfan Ecoleg & Hydroleg a defnyddio’r wybodaeth sydd ar gael, rydych yn cytuno i’r canlynol: Mae hawlfraint y deunydd, yn cynnwys delweddau, a geir ar y safle hwn yn berchen i Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC). Cedwir pob hawl. Gall ymwelwyr â’r safle ddefnyddio gwybodaeth yn y ffyrdd a ddisgrifir yn yr hysbysiad cyfreithiol hwn:

  • gallwch lawrlwytho neu argraffu copi unigol o ddeunydd hawlfraint NERC at ddefnydd ymchwil neu bersonol;
  • ni allwch newid unrhyw ddeunydd na dileu unrhyw ran o unrhyw hysbysiad hawlfraint;
  • ni ellir defnyddio unrhyw wybodaeth a geir ar y safle hwn at ddibenion masnachol, oni bai bod NERC wedi rhoi caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw.

Mwy o wybodaeth

Os oes gennych gais neu ymholiad am atgynhyrchu a hawliau, ysgrifennwch at enquiries@ceh.ac.uk

Rhyddid Gwybodaeth

Mae UKCEH wedi ymrwymo i fod yn agored, yn dryloyw a chyfathrebu’n effeithiol wrth ymdrin â phob cais am wybodaeth.

Yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (FOIA) gall unrhyw un wneud cais am wybodaeth am yr hyn yr ydym yn ei wneud a’r ffordd yr ydym yn ei wneud. Daw rhywfaint o’n gwybodaeth o dan Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 (EIR), sy’n rhoi hawliau mynediad gweddol debyg i FOIA ond sy’n ymwneud yn benodol â gwybodaeth am yr amgylchedd.

Mae NERC, ein rhiant gorff ac endid cyfreithiol o dan y Ddeddf, yn gweithredu cynllun cyhoeddi i gefnogi ei ymrwymiadau o dan ddeddfwriaeth FOI ac EIR. Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma.

I wneud cais o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth neu’r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol, anfonwch e-bost at yr Arolygydd Ymholiadau yn foi@ceh.ac.uk neu ysgrifennwch i:

UK Centre for Ecology & Hydrology 
Maclean Building
Benson Lane 
Crowmarsh Gifford
Wallingford 
Oxfordshire 
OX10 8BB  
Ffôn: +44 (0)1491 692371  
Ebost: foi@ceh.ac.uk

I’n helpu ni, rhowch amlinelliad o’ch cais mor glir â phosibl, gan roi unrhyw ddyddiadau, sefydliadau neu enwau perthnasol, a dywedwch wrthym a fyddech yn hoffi derbyn y wybodaeth ar gopi caled neu’n electronig.

Ein nod yw ateb yr holl geisiadau yn gyflym ac o fewn y terfynau amser a nodir yn ôl y gyfraith. Mae mwy o fanylion am eich hawliau cyfreithiol a gwneud cais am wybodaeth ar wefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

Os ydych yn anhapus gyda’r ffordd yr ydym yn ymdrin â’ch ymholiad, dilynwch ein gweithdrefn gwyno.

Ein nod yw rhoi gymaint o wybodaeth â phosibl yn rhad ac am ddim, ond rydym yn cadw’r hawl i godi ffioedd yn unol â Rheoliad Rhyddid Gwybodaeth a Diogelu Data (Terfyn a Ffioedd Priodol) 2004. Mae UKCEH yn dilyn canllawiau presennol NERC ar godi tâl o dan Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004.

Cwcis

Ein defnydd o gwcis ar wefan UKCEH

Pan fyddwn yn darparu gwasanaethau’r we, rydym eisiau eu gwneud yn hawdd, yn ddefnyddiol ac yn ddibynadwy. Mae hyn weithiau’n golygu gosod rhywfaint o wybodaeth ar eich dyfais, er enghraifft, cyfrifiadur neu ffôn symudol. Mae’r rhain yn cynnwys ffeiliau bach o’r enw cwcis.  Ni ellir eu defnyddio i ganfod pwy ydych.

Defnyddir y darnau hyn o wybodaeth i wella’r gwasanaethau ar eich cyfer trwy, er enghraifft, alluogi gwasanaeth i adnabod eich dyfais fel nad oes yn rhaid i chi roi’r un wybodaeth sawl gwaith yn ystod un dasg; adnabod eich bod eisoes wedi rhoi enw defnyddiwr a chyfrinair fel nad oes yn rhaid i chi wneud hyn ar gyfer pob tudalen ar y we y byddwch eisiau ei gweld; mesur faint o bobl sy’n defnyddio gwasanaethau, er mwyn eu gwneud yn haws i’w defnyddio a bod digon o allu yno i sicrhau eu bod yn gyflym.

Nid yw’r wybodaeth a gesglir yn cael ei rhannu gyda sefydliadau eraill.

Cwcis a ddefnyddir ar ein gwefan

Cwcis parti cyntaf

Defnyddir y cwcis hyn i gofio’r detholiadau neu ddewisiadau yr ydych eisoes wedi'u gwneud wrth ddefnyddio ein gwefan.

JESSIONID

Pwrpas: Defnyddiwyd gan y gweinydd i gadw sesiwn y defnyddiwr yn ddienw 
Dod i ben: ar ddiwedd sesiwn (pan fyddwch yn cau eich porwr)

has_js

Pwrpas: Defnyddiwyd i nodi a oes gan borwr yr ymwelydd JavaScript ai peidio
Dod i ben: ar ddiwedd sesiwn (pan fyddwch yn cau eich porwr)

cookie_agreed

Pwrpas: Dangos bod y defnyddiwr wedi cytuno i dderbyn cwcis
Dod i ben: Tri mis

SSO_CEH

Pwrpas: Defnyddir gan olygyddion gwe mewnol i fewngofnodi i'n system olygu

_cfduid

Pwrpas: Adnabod cleientiaid unigol y tu ôl i gyfeiriad IP a rennir er mwyn cymhwyso gosodiadau diogelwch ar sail pob cleient. 
Dod i ben: Ar ddiwedd y sesiwn

Drupal.tableDrag.showWeight

Pwrpas:  Defnyddir i ymdrin â'r dull cyson o lywio tudalennau a ffurflenni wedi'u tabio ar draws ystod eang o borwyr.  Mae'n cael ei osod pan yn  defnyddio tudalennau â gwybodaeth sy’n ymddangos mewn fformat Tabio. 
Dod i ben: ymhen blwyddyn 

Google Analytics

Mae UKCEH yn defnyddio gwasanaeth Google Analytics. Mae Google Analytics yn gosod cwcis i’n helpu ni i amcangyfrif yn gywir nifer yr ymwelwyr â’r wefan a maint y defnydd. Mae hyn yn ein galluogi i sicrhau bod y gwasanaeth ar gael pan fyddwch ei angen ac yn gyflym.

_utma

Pwrpas:  Defnyddir i wahaniaethu rhwng defnyddwyr a sesiynau
Dod i ben: 2 flynedd

_utmb

Pwrpas: Defnyddir i gadarnhau sesiynau ac ymweliadau newydd
Dod i ben: 30 munud

_utmc

Pwrpas: Defnyddir ynghyd â _utmb i adnabod sesiynau/ymweliadau newydd gan ymwelwyr sydd yn dychwelyd
Dod i ben: pan fydd y defnyddiwr yn gadael y porwr

-utmt

Pwrpas: Defnyddir i gyfyngu’r nifer o geisiadau ar gyfer y gwasanaeth - cyfyngu ar gasglu data ar safleoedd traffig uchel.
Dod i ben: Deg munud

_utmz

Pwrpas: Defnyddir i nodi ffynhonnell y traffig i'r safle er mwyn galluogi Google Analytics i hybysu perchnogion y safle o ble ddaeth yr ymwelwyr wrth gyrraedd y safle
Dod i ben: 6 mis

_gali

Pwrpas; Mae’n gwahaniaethu yn awtomatic rhwng gysylltiadau lluosog i'r un URL ar dudalen unigol.  
Dod i ben: Ar ddiwedd y sesiwn

_gat

Pwrpas: Defnyddir i gygyngu’r nifer o geisiadau.
Dod i ben: Un munud

Am fwy o fanylion am y cwcis a osodir gan Google Analytics, gweler eu gwybodaeth

Gwasanaethau trydydd partïon

Mae gwefan UKCEH yn cynnwys botymau ‘rhannu’ wedi eu sefydlu i alluogi defnyddwyr y safle i rannu erthyglau’n hawdd gyda’u ffrindiau a’u cydweithwyr trwy nifer o rwydweithiau cymdeithasol poblogaidd, er enghraifft, Facebook, Twitter neu Google+. Gall y safleoedd hyn osod cwcis os ydych yn clicio drwodd. Nid yw UKCEH yn rheoli’r gwaith o ledaenu’r cwcis hyn a dylech wirio gwefan berthnasol y trydydd parti am fwy o wybodaeth am y rhain.

Pan fyddwch yn tanysgrifio i gylch lythyr UKCEH, cedwir eich gwybodath gan ein cyflenwr e-bost, MailChimp.  Nid yw'n cael ei rannu gydag unrhyw barti arall.   Defnyddir y data er mwyn anfon e-byst ac asesu gweithgaredd ar yr e-byst a anfonwn.  Bydd y data a ddarperir gennych yn cael ei ddefnyddio ar gyfer adroddiadau ystadegol gyda'r nod o wella ein gwasanaeth.

Mwy o wybodaeth

Mae gan eich porwr gwe osodiadau sy’n caniatau i chi reoli'r ffeiliau bach hyn drwy ddileu neu rwystro cwcis. Gallwch reoli’r ffeiliau bach hyn eich hun a dysgu mwy amdanynt trwy gyngor yn AboutCookies.org