Available translations: English

Pwrpas y prosesu

Mae eich data personol yn cael ei brosesu fel rhan o ymchwil gwyddonol strategol a wneir gan y Ganolfan Ecoleg a Hydroleg. Caiff eich manylion cyswllt eu rhannu fel sy'n berthnasol i'r prosiect, e.e. rhannu gydag aelodau'r prosiect ymchwil gwyddonol, cyhoeddi ar wefan ymchwil gwyddonol a gyda threfnwyr, y rhai sy’n cymryd rhan a chynadleddwyr mewn digwyddiadau. Mae data personol unigolion fel enw, manylion cyswllt, lleoliad, yn cael eu prosesu i sicrhau bod y ffynhonnell ar gael ar gyfer cyfraniadau data, ymchwil, dadansoddi a chanlyniadau'r prosiect.

Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu data personol

Mae’r Ganolfan Ecoleg a Hydroleg yn cynnal ymchwil a datblygiad gwyddonol er budd y cyhoedd. Efallai bod sail gyfreithiol i gontract lle mae unigolion: yn cael eu cyflogi neu eu cyllido gan y Ganolfan Ecoleg a Hydroleg i weithio ar ymchwil gwyddonol er lles y cyhoedd; gofyn am ddyfynbrisiau ar gyfer meddalwedd, neu, sy'n cofrestru ac yn talu am ddigwyddiad: gweler adrannau ychwanegol o'r hysbysiad preifatrwydd am ragor o wybodaeth.

Yn ychwanegol at y data personol a ddarparwyd gennych, mewn rhai achosion efallai y bydd rhai categorïau o ddata personol na fyddwch chi’n eu darparu’n  bersonol, er enghraifft:

  • Sefydliadau partner yn rhoi manylion gweithwyr unigol a allai gyfrannu at gynigion ar gyfer prosiectau a chyfrannu at brosiectau cyfredol.
  • Sefydliadau academaidd yn rhannu manylion i sefydlu lleoliadau myfyrwyr, PHD, trefniadau ymwelwyr a secondiadau.

Gweler hefyd ein polisi cwcis.

Mae’r sawl sy’n derbyn data personol neu gategorïau’r data personol yn cynnwys:
  • Aelodau tîm y prosiect gwyddonol
  • Cefnogaeth y prosiect gwyddonol gan wasanaethau cymorth y Ganolfan Ecoleg a Hydroleg
  • Gwirfoddolwyr y prosiect gwyddonol
  • Partneriaid allanol y prosiect
  • Aelodau’r rhwydwaith gwyddonol
  • Sefydliadau academaidd gyda chyfraniad myfyrwyr
  • Sefydliadau yn cyflogi unigolion sy'n cyfrannu at yr ymchwil gwyddonol
  • Ymwelwyr â gwefannau prosiectau ymchwil penodol
  • Cyrff Cyllido gan gynnwys yr Undeb Ewropeaidd lle bo’n briodol
Manylion trosglwyddo’r data personol i unrhyw drydydd gwlad neu sefydliadau rhyngwladol (os yn berthnasol).

Mae eich gwybodaeth yn cael ei phrosesu yn y DU a’r Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE).

Ar gyfer prosiectau penodol lle mae'ch gwybodaeth yn cael ei phrosesu y tu allan i'r AEE, rydym yn gweithio gyda'n partneriaid i wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod eich data personol yn cael ei brosesu yn unol â gofynion diogelu data GDPR.

Hysbysiad Preifatrwydd