Available translations: English

Her wyddonol

Mae amaethyddiaeth yn cwmpasu 81% o dir Cymru – mae hyn yn golygu bod ffermwyr ymysg y rhanddeiliaid mwyaf hanfod ym mholisi Defnydd o Dir Cymru. Mae bodloni’r galw am fwyd, gwella bioamrywiaeth, lleihau llygredd ac allyriadau nwyon tŷ gwydr a hefyd addasu i newid yn yr hinsawdd yn her enfawr.

Sefydlodd Llywodraeth Cymru gynllun rheoli tir cynaliadwy Glastir er mwyn helpu i gydbwyso’r anghenion hyn, gan ddarparu cymorth ariannol i ffermwyr a rheolwyr tir i roi arferion sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd ar waith.

Trosolwg o'r prosiect

 

Image
Collecting data in the field on a tablet computer

Er mwyn rhoi adborth parhaus ar Glastir, comisiynodd Llywodraeth Cymru y Ganolfan Ecoleg a Hydroleg (CEH) i arwain Rhaglen gyfochrog Monitro a Gwerthuso Glastir (RhMGG) mewn partneriaeth ag 20 o sefydliadau eraill.

Mae timau arbenigol yn arolygu 300 1km sgwâr ledled Cymru dros gyfnodau o bedair blynedd, gan gasglu data ar nwyon tŷ gwydr, ansawdd a bioamrywiaeth dŵr croyw, infertebratau sy’n peillio, adar, cynefinoedd, pridd, tirweddau a nodweddion hanesyddol. Mae’r arolygon hyn yn rhoi tystiolaeth o newid mewn ymateb i Glastir a phwysau eraill fel newid yn yr hinsawdd a llygredd aer.

Mae CEH a’i bartneriaid yn cyfuno’r wybodaeth yma gyda data hanesyddol o raglenni monitro arbenigol eraill, sydd yn rhoi dealltwriaeth integredig werthfawr o’r ecosystem gyfan. Mae modelau RhMGG yn rhagweld y gwelliannau y mae rheoli glastir yn disgwyl eu cyflawni er mwyn i addasiadau gael eu gwneud i gynyddu’r effaith.

Mae cynnyrch RhMGG yn cynnwys cymhwyso technegau moleciwlaidd ar gyfer bioamrywiaeth tir, tyrrau llif symudol ar gyfer mesur nwyon tŷ gwydr, a map mawn unedig ar gyfer Cymru i wella’r gwaith o dargedu taliadau wrth drafod contractau Glastir.

Fe wnaeth RhMGG hefyd greu mynegai rhywogaethau Adar sy’n cael Blaenoriaeth ar gyfer Cymru er mwyn monitro tueddiadau hirdymor, Mynegai Ansawdd Gweledol ar gyfer meintioli asesu newid yn ansawdd tirweddau, a map rhagfynegol eglur iawn o Gynhyrchiant Sylfaenol Crynswth Blynyddol (h.y. twf planhigion) ar gyfer Cymru gan ddefnyddio cyfuniad o ddata wedi ei synhwyro o bell a modelu tueddiadau planhigion. 

canlyniadau

 

Image
Surveyor checking finds in a freshwater sampling net

Mae ymchwil RhMGG eisoes wedi rhoi adborth ar gyfnodau cynnar y cynllun cenedlaethol hwn. Mae dadansoddiad o’r set gyntaf o ddata gwaelodlin ynghyd â data hanesyddol hirdymor yn dangos sefydlogrwydd ar gyfer canlyniadau Glastir, heb lawer o dystiolaeth o welliant ar wahân i ansawdd blaenddwr nentydd, allyriadau nwyon tŷ gwydr ac ardaloedd coetir dros yr 20 mlynedd diwethaf.

Mae rhai o’r prif ganfyddiadau eraill yn cynnwys y canlynol:

  • roedd gan 91% o’r  nentydd ryw lefel o addasiad ond roedd 60% wedi aros o ansawdd da yn ecolegol
  • dim newid yng nghynnwys carbon yr uwchbridd dros y 25 mlynedd diwethaf
  • roedd 51% o’r nodweddion hanesyddol mewn cyflwr rhagorol neu gadarn
  • dwy ran o dair o’r hawliau tramwy cyhoeddus yn gwbl agored a hygyrch
  • gellid cyflawni gostyngiadau cenedlaethol trwytholchi nitradau, ocsid nitraidd ac allyriadau methan o 5-10% trwy atal gwrtaith nitrogen a lleihau cyfradd stoc ar ardaloedd o lastir gwell a mwy
  • mae rhagolygon modelu yn nodi gostyngiad posibl mewn tir sy’n creu llifogydd o 1-9% trwy opsiynau Glastir o ‘greu coridorau newydd ar ochrau nentydd trwy blannu coed’ ac ‘ymestyn ochrau presennol coetir’
  • mae gan 10% o Gymru ddarpariaeth dda o ddau wasanaeth ecosystem neu fwy wedi eu cyd-leoli, tra bod gan 28% y potensial i ennill mwy nag y byddai’n ei golli o ran darpariaeth gwasanaeth pe byddai mesurau ymyrraeth yn cael eu gweithredu

Mae’r dadansoddiad integredig hwn o’r ecosystem gyfan, yn ymgorffori dadansoddiad amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd, yn caniatáu ar gyfer dadansoddiad cadarn o gyfnewidiadau a chyd-fuddion yr opsiynau rheoli gwahanol.

Porth data RhMGG

 

Cysylltwch

Bronwen Williams, GMEP Rheolwr Prosiect

Dolenni cysylltiedig

Principal Investigator

Bridget is UKCEH's Science Area Head for Soils and Land Use (SLU) which involves leadership and management of more than 100 research staff and 40 postgraduate students across three UKCEH sites.