Available translations: English

Mae amgylchedd Cymru yn cefnogi sectorau economaidd arwyddocaol gan gynnwys amaethyddiaeth, pysgodfeydd, twristiaeth a choedwigaeth ac mae’n bwysig i feysydd polisi eraill gan gynnwys iechyd a llesiant, ynni a seilwaith. Er mwyn datblygu polisïau sy’n cynnal cydnerthedd cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ac i werthuso gweithrediad y rhaglen, mae’n ofynnol bod gan Lywodraeth Cymru Raglen gadarn ar gyfer Monitro a Modelu’r Amgylchedd a Materion Gwledig.

Mae Rhaglen Monitro a Modelu’r Amgylchedd a Materion Gwledig (ERAMMP) yn datblygu dealltwriaeth o Reoli Tir yn Gynaliadwy (SLM) yn achos tirwedd Cymru drwy hyrwyddo cydweithio â chonsortiwm o bartneriaid sy’n cynnig eu harbenigedd gorau a gweithgareddau parhaus ar draws y gymuned monitro a modelu.

Visit the dedicated ERAMMP website for more information.

UKCEH contact