Polisi Preifatrwydd

Nid yw gwefan y Ganolfan Ecoleg a Hydroleg yn cadw nac yn dal gwybodaeth bersonol. Yr unig beth a wna yw logio cyfeiriad IP y defnyddiwr, a adnabyddir yn awtomatig gan y gweinydd gwe.

Rydyn ni ond yn defnyddio cwcis i gadw rhif hap ar eich cyfrifiadur i’n helpu i gyfrif nifer y weithiau mae defnyddwyr yn dychwelyd i’n safle ac i alluogi gweld cyflwr sesiwn rhwng Tudalennau Gweinyddwyr Gweithredol. Ni fyddwn yn casglu unrhyw wybodaeth amdanoch, dim ond yr hyn sydd ei angen i weinyddu system y gweinydd Gwe.

Mae’r polisi preifatrwydd hwn yn ymdrin â gwefan y Ganolfan Ecoleg a Hydroleg yn unig ar http://www.ceh.ac.uk. Nid yw cysylltiadau eraill yn y safle hwn i wefannau eraill yn cael eu cynnwys gan y polisi hwn.

Crynodeb o’r telerau

Porwr
Defnyddir hwn i leoli ac arddangos tudalennau Gwe drwy gymhwysiad meddalwedd. Y rhai mwyaf poblogaidd yw Netscape Navigator a Microsoft Internet Explorer.

Cwci
Neges a roddir i borwr gwe gan weinyddwr gwe. Cedwir y neges wedyn gan y porwr mewn lleoliad ar ddisg caled y defnyddiwr. Bob tro mae’r porwr yn gofyn am dudalen o’r gweinydd, anfonir y neges hon yn ôl. Defnyddir cwcis yn aml i adnabod defnyddwyr a gwneud eu hymweliad yn fwy personol drwy addasu tudalennau gwe iddynt, er enghraifft, drwy eu croesawu yn ôl eu henw y tro nesaf y byddant yn ymweld â’r un safle. Bydd safle sy’n defnyddio cwcis fel rheol yn eich gwahodd i roi gwybodaeth bersonol megis eich enw, e-bost, cyfeiriad a diddordebau.

IP (Internet Protocol)
Mae pob rhwydwaith sy’n gysylltiedig â’r rhyngrwyd yn siarad IP, y safon dechnegol sy’n galluogi i ddata gael eu trosglwyddo rhwng dau ddyfais. Mae TCP/IP (Transmission Control Protocol/Internet Protocol) yn gyfrifol am wneud yn siŵr fod negeseuon yn mynd o un gwesteiwr i un arall ac y deellir y negeseuon.

Cyfeiriad IP
Os ydych wedi’ch cysylltu â’r Rhyngrwyd, mae gennych un. Er enghraifft, gall edrych rhywbeth fel hyn: 198.184.98.9

Gweinydd Gwe
Mae’n trosglwyddo (gweini) tudalennau gwe i’ch cyfrifiadur.

Tudalennau Gweinydd Gweithredol
Tudalennau gwe deinamig (rhyngweithiol) sy’n cynnwys ffurflenni adborth ar y we, tudalennau logio i mewn a thudalennau sy’n cysylltu â chronfa ddata.

Cyflwr Sesiwn
Ffordd o’ch cofio rhwng tudalennau gweinydd gweithredol.