Environment Centre WalesCroeso i hafan Canolfan Ecoleg a Heidroleg, Bangor
Lleoliad
Yng ngogledd-orllewin Cymru y mae CEH Bangor, yn agos i Barc Cenedlaethol Eryri, a Sir Fôn. Mewn partneriaeth â Phrifysgol Cymru, yr ydym yn ffurfio Canolfan Amgylchedd Cymru, a hynny ym Mangor.
Canoli ar Wyddoniaeth
Mae ymchwil yn CEH Bangor yn rhan o bum rhaglen wyddoniaeth ar draws CEH, sy’n ymdrin â meysydd Bioamrywiaeth, Dŵr, Biogeogemeg, Newid Hinsawdd ac Economïau Cynaliadwy.
Mae’r wyddoniaeth ym Mangor yn canoli ar effeithiau llygredd a newid hinsawdd ar gynefinoedd naturiol; a gwerthuso cynaladwyedd gwahanol arferion defnydd tir.
Timau Ymchwil
Canolfan Amgylchedd Cymru
Dr Bridget Emmett yw’r uwch-wyddonydd yn CEH Bangor. Y Rheolwr Safle (gweinyddu, adeiladau a chyfleusterau) yw Diana Jones
Tel: +44(0) 01248 374500, e-bost: enquiries@ceh.ac.uk.
Cyfeiriad y Safle
CEH Bangor,
Canolfan yr
Amgylchedd Cymru
Ffordd Deiniol
Bangor
Gwynedd
LL57 2UW
Cyswllt i Google Maps
Ar y ffordd: O’r A55 a’r A5, dilynwch yr A5122 tuag at Bont Menai. Mae CEH Bangor ar y dde, bron gyferbyn â Llyfrgell y Brifysgol. O Gaernarfon, dilynwch yr A4087, y tro cyntaf i’r chwith wedi pont y rheilffordd, yna’r cyntaf i’r dde wrth y goleuadau traffig i mewn i Ffordd Deiniol
Ar y trên: Mae gorsaf drenau Bangor rhyw 200 metr o CEH Bangor. Mae gwasanaeth bob awr i Lundain Euston yn cymryd rhyw 4 awr.
Hedfan: Lerpwl (75 milltir/120 km) a Manceinion (94 milltir/150 km) yw’r meysydd awyr mawr agosaf.

