Plynlimon Catchment
Dalgylchoedd Pridd a Cemeg
Mae gan CEH allu ac arbenigedd mewn ymchwil biogeocemeg gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau o brosesau pridd i’r ddalgylch gyfan, a chymysgedd o ddulliau gweithredu o fonitro tymor-hir, i arolygon a modelu deinamig. Dwy elfen allweddol o’r gwaith hwn yw cynyddu ein dealltwriaeth o brosesau pridd sy’n pennu’r ffordd y caiff maethynnau a llygreddau eu trawsnewid a’u cludo i afonydd a nentydd, ac adnabod tueddiadau yn ansawdd dŵr nentydd, sy’n aml yn gweithredu fel dangosydd newid yn yr amgylchedd daearol. Mae’r Rhaglen Biogeogemeg yn gyfrifol am gofnodion hirdymor dyddodiad a chofnodion cemeg dŵr nentydd mewn amryw o safleoedd, fel ym Mhumlumon yng nghanolbarth Cymru. Mae’r rhain, o’u cyfuno ag amrediad o arolygon gofodol ar lygredd atmosfferig a biogeogemegol, yn rhoi adnodd a fframwaith unigryw ar gyfer llawer o’n gwaith sydd wedi ei seilio ar brosesau ac effeithiau.
Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Dr. Brian Reynolds.

