Solardome experimental facilities at Bangor
Solardome Experimental Facilities at Bangor

GANE rooftop experiment
GANE rooftop experiment

Gwyddoniaeth Ecosystem

Mae’r Is-adran Biogeogemeg a Swyddogaeth Ecosystem wedi ei lleoli yn CEH Bangor . Rydym yn arbenigo mewn ymchwil fiogeogemeg gan ddefnyddio amrywiaeth o raddfeydd o gelloedd unigol i’r ddalgylch gyfan, a chymysgedd o ddulliau gweithredu o fonitro tymor-hir, i arolygon a modelu deinamig. Mae cryfderau penodol yn cynnwys: y ffordd y caiff maethynnau a llygreddau eu trawsnewid a’u cludo mewn pridd, eu trosglwyddo i nentydd ac afonydd, ac effaith llygredd yn yr atmosffer, newid hinsawdd a dull rheoli tir ar y ffordd mae ecosystemau’n gweithredu. Defnyddir ein gwaith i helpu i gynghori rhai sy’n llunio polisïau a rheolwyr adnoddau sy’n ceisio datblygu dulliau mwy cynaladwy o reoli ein hadnoddau naturiol.

I gael gwybodaeth bellach, cysylltwch â Dr. Bridget Emmett.