Ozone anyler in the field Ozone analyser in the fieldRoots covered with lichen and leaf litter
Tree roots and leaf litter NERC aircraft used for atmospheric sampling NERC aircraft used for atmospheric sampling Whim bog field site - used to assess effects of nitrogen deposition on vegetation
Whim bog field site - used to assess effects of nitrogen deposition on vegetation

Biogeogemeg

Biogeogemeg yw’r astudiaeth o’r prosesau a’r adweithiau sy’n rheoli cyfansoddiad yr amgylchedd naturiol. Gall y prosesau hyn fod yn rhai cemegol, ffisegol, daearegol ac/neu fiolegol. Mae’r amgylchedd naturiol yn cynnwys dŵr, pridd, aer, organeddau byw a chramen y Ddaear.

Yr hyn sydd wrth wraidd problemau amgylcheddol presennol, yn rhanbarthol a byd-eang, yw’r ffordd y caiff elfennau, yn cynnwys carbon a nitrogen, eu cylchu’n fiogeogemegol trwy weithgaredd dynol. Mae’r ddwy elfen hyn yn cael sylw cynyddol gan lywodraethau sy’n edrych ar newidiadau amgylcheddol byd-eang tymor hir, yn arbennig newid hinsawdd. Mae cyfansoddion carbon yn un o brif achosion cynhesu byd-eang ac, felly, rhoddir sylw mawr iddynt mewn asesiadau o ddatblygu cynaladwy. Gweithgaredd dynol yn awr yw prif achos y nitrogen sy’n cael ei ollwng i’r atmosffer. Mae effeithiau hyn yn treiddio trwy holl system y Ddaear, o newidiadau hemisfferol mawr yng ngallu’r atmosffer i ocsideiddio i fwrllwch ffotogemegol rhanbarthol, effeithiau ar iechyd dynol a chnydau, a newidiadau mewn bioamrywiaeth ar raddfa gyfandirol.

Mae gwybodaeth bellach ar y wyddoniaeth a gynhwysir yn y Rhaglen Biogeogemeg ar gael drwy’r cysylltiadau ar y dde, sy’n disgrifio naill ai’r grwpiau o bobl sy’n gwneud y gwaith gwyddonol (Timau Ymchwil) neu’r gwahanol feysydd gwyddoniaeth (Meysydd ymchwil). Mae Arolwg Strategol o’r Rhaglen Biogeogemeg hefyd ar gael.

Cysylltiadau

Yr Athro Dr Bridget Emmett, Cyfarwyddwr Gwyddoniaeth Biogeogemeg (wedi ei leoli yn CEH Bangor).

Dr Richard Harding, Dirprwy Gyfarwyddwr Gwyddoniaeth Biogeogemeg (wedi ei lleoli yn CEH Wallingford).

Anita Petrie, Gweinyddwr Rhaglen Wyddonol Biogeogemeg, (wedi ei leoli yn CEH Wallingford).

Timau Ymchwil

Meysydd Ymchwil

Ymchwil ar y Cyd

  • Cylch Nitrogen – Ymchwil Ewropeaidd Integredig.
  • Rhwydwaith Cefnogi Polisïau Ewropeaidd ar Lygredd Aer.
  • Ymchwil y DU ar Ewtroffigedd ac Asideiddio.
  • Ecosystemau Daear.
  • Llystyfiant ICP.