Dod dros asideiddio ac ewtroffigedd*

Er gwaethaf polisïau Ewropeaidd llwyddiannus i leihau gollyngiadau o lygreddau asideiddio ac ewtroffigedd, mae angen gostyngiadau pellach i warchod yr ecosystemau mwyaf sensitif. Mae 60% o systemau tir y DU mewn perygl oddi wrth asideiddio, a chyfran gyffelyb mewn perygl oddi wrth gyfoethogi nitrogen. Nod yr ymchwil hon yw rhoi’r wyddoniaeth sydd ei hangen i sicrhau bod polisïau newydd wedi eu seilio ar y dystiolaeth orau sydd ar gael, darparu gwybodaeth newydd ar y stoc sydd mewn perygl, cael gwell dealltwriaeth o’r prosesau sy’n sail i gylchu nitrogen a sylffwr mewn priddoedd, canlyniadau bioamrywiaeth a gweld beth yw’r potensial ar gyfer adferiad.

 

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch â Phennaeth yr Is-adran Biogeogemeg a Swyddogaeth Ecosystem, Professor Bridget Emmett.

*Ewtroffigedd yw cyfoethogi dŵr (llyn neu afon) â maethynnau, gan arwain at dwf gormodol o organeddau a diffyg ocsigen.