Llyfrgell CEH Bangor
Mae Llyfrgell CEH Bangor wedi’i lleoli ar hyn o bryd yn Adeilad Orton ym Mhrifysgol Bangor. Mae gan y Llyfrgell gasgliad o 1800 o lyfrau ac adroddiadau ac mae’n cynnwys 150 o deitlau cyfresol. Mae’r casgliad yn ymdrin â sawl agwedd o ecoleg, ond yn benodol mae ganddo ddetholiad eang o ddeunydd ar goedwigoedd a choedwigaeth, pridd, llygredd a materion cadwraeth.
Ymwelwyr allanol
Mae staff yn y lyfrgell yn rhan-amser (8.45am tan 12.30pm o ddydd Llun i ddydd Iau, 8.45am -12.15pm dydd Gwener) ond mae croeso i ymwelwyr ddefnyddio cyfleusterau’r Llyfrgell yn ystod oriau gwaith arferol ar ôl gwneud cais wrth y Dderbynfa.
Cysylltwch â Jackie Cooper, ffôn: 01248 370045
Yn gynnar yn 2007, bydd Llyfrgell CEH Bangor yn cael ei lleoli yng Nghanolfan newydd yr Amgylchedd Cymru yn y Brifysgol. Mae Canolfan yr Amgylchedd Cymru yn bartneriaeth rhwng Canolfan Ecoleg a Hydroleg (CEH) y Natural Environment Research Council (NERC) a Phrifysgol Cymru, Bangor (PCB).

